Ewch at gynnwys

Mae’r gyfres Lle mae’r Barcud Coch yn Hedfan gan y ffotograffydd Amanda Jackson yn canolbwyntio ar y bobl ifanc a gafodd eu magu ym Mhentref Eco Tir-y-Gafel a’r gymuned gyfagos yn Sir Benfro. Gan gymryd ei enw o eiriau cân a ysgrifennwyd gan Holly Young a fagwyd yn yr ardal, mae’r teitl yn cyfeirio at yr adar ysglyfaethus sydd i’w gweld yn esgyn uwchben y caeau yn yr ardal hon. 

Mae Amanda wedi bod yn tynnu lluniau o’r pentref eco ers 2010 ac, o 2013-2021, creodd ei chyfres ‘i Adeiladu Cartref ’. ‘Roedd y gyfres yn canolbwyntio ar y bobl sy’n byw yn y gymuned, yn eu plith y plant sydd bellach yn bobl ifanc, a nodweddir yn yr arddangosfa.