Chwef 24ain– Mai 25ain
Mae’r arddangosfa hon yn ganlyniad i raglen fentora 6 mis sy’n arddangos gwaith 7 artist o liw, gan roi llwyfan i adrodd straeon nas adroddwyd ac i greu ymatebion artistig sy’n cynrychioli croestoriad, lluosogrwydd, a bod rhwng tiroedd ac hunaniaeth. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r artist arweiniol Jasmine Violet, mae hyn yn rhan o brosiect ehangach o’r enw Persbectif(au), mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, i sicrhau newid sylweddol yn y modd y mae’r celfyddydau gweledol a’r sector treftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas ac i ddathlu’r cymunedau amrywiol sy’n ffurfio Cymru ar hyn o bryd.
