CYFLE AM BRESWYLIAD RHYNGWLADOL – MAGNETIG 4
Mae’r bedwaredd rownd o breswylfeydd rhyngwladol yn y celfyddydau gweledol yn y DU ac yn Ffrainc MAGNETIC 4 ar agor! Dyddiad Cau: Gorffennaf 14, 2025.
Mae’n rhaglen ar y cyd rhwng y DU a Ffrainc dan ymbarél Prosiectau Celf Fluxus. Mae’n dod â 10 sefydliad at ei gilydd i greu rhwydwaith o breswylfeydd i artistiaid yn rhanbarthau Ffrainc a chenhedloedd y DU. Mae’r rhaglen eisoes wedi cefnogi deuddeg partner rhyngwladol a chyfanswm o 27 o artistiaid.
Mae pob preswylfa’n bartneriaeth rhwng rhanbarth Ffrainc a chenedl yn y DU. Rydym yn falch iawn bod Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Cymru, wedi ei phartneru gyda Frac Bretagne yn Rennes, Llydaw, unwaith eto, gyda chyfnod preswyliad o 2 fis.
Rydym yn chwilio am 2 artist, 1 wedi’i leoli yn Llydaw i gymryd rhan yn y preswyliad yma yng Nghymru, ac 1 wedi’i leoli yng Nghymru i gymryd rhan yn y preswyliad yn Llydaw.
Stiwdio’s Heatherwick, Aberystwyth Frac Bretagne, Rennes, Brittany
Mae’r 4 partneriaeth tandem arall yn creu cysylltiadau rhwng CAPC yn Bordeaux/Nouvelle-Aquitainea Wysing Arts Centre yng Nghaergrawnt/Lloegr, rhwng Frac Grand Large yn Dunkirk/Hauts-de-France a Flax Art Studios yn Belfast/Gogledd Iwerddon, rhwng Villa Arson yn Nice/Provence-Alpes-Côte d’Azur a Cove Park/Yr Alban a rhwng Bétonsalon ym Mharis/Île-de-France a Gasworks yn Llundain/Lloegr.
Materion cymdeithasol ac amgylcheddol sydd wrth wraidd y rhaglen. Mae’r preswylfeydd wedi’u teilwra i bob sefydliad a’i ardal leol. Bydd gwahoddiad i’r artistiaid ymateb i gyd-destunau daearyddol, hanesyddol, cymdeithasol neu artistig penodol.
Bydd yr artistiaid yn cael ffi misol o 2500 €/ £ 2100, ynghyd â llety a stiwdio, mentora curadurol a rhwydweithio rhyngwladol. Derbynnir ceisiadau tan 14 Gorffennaf, 2025, gyda phreswyliadau yn dechrau yng Ngaeaf 2025-26. Gellir gwneud ceisiadau drwy wefan Fluxus Art Projects, lle byddwch yn dod o hyd i’r holl wybodaeth am amserlenni, meini prawf dethol a gwybodaeth hygyrchedd.
Sut i ymgeisio
Os ydych am ymgeisio, rhaid cyflwyno cynnig artistig sy’n amlinellu arbenigedd eich ymarfer a’ch diddordebau ymchwil a pham eu bod yn berthnasol yng nghyd-destun y sefydliad yr ydych yn ymgeisio amdano. Hefyd darn byr sy’n disgrifio eich cymhelliant dros ymgeisio am breswylfa ryngwladol ar yr adeg yma yn eich gyrfa a manteision hynny.
Cyhoeddir enwau artistiaid llawryfog Magnetic 4 ym mis Hydref 2025 yn ystod Frieze yn Llundain.
– Dim ond artistiaid gweledol cyfoes sy’n gallu ymgeisio.
– Nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio.
– Rydych yn gysylltiedig â gwlad/rhanbarth os oes gyda chi gyfeiriad preswyl yno.
– Gellir ymgeisio yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
– Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar y cyd (gan ddau neu ragor o bobl).
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – o ran hil, ethnigrwydd, rhywedd, cefndiroedd incwm isel ac ymgeiswyr sy’n F/fyddar, anabl neu niwroamrywiol.
Mae gwahanol sefyllfaoedd hygyrchedd gan bob sefydliad sy’n cynnig preswylfa. Edrychwch ar ein gwefan i’w gweld.
Rydym yn barod i drafod unrhyw ofynion penodol. Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd ar unrhyw gam wrth ymgeisio, rhowch wybod inni.
Cyswllt: fluxusartp@gmail.com
YMGEISIWCH FAN HYN: Fluxus
Fluxus (fluxusartprojects.com)
Cefnogir Magnetic gan yr Institut français du Royaume-Uni, yr Institut français, Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc, Gweinyddiaeth Ewrop a Materion Tramor Ffrainc, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a’r Cyngor Prydeinig. Mae Fluxus Art Projects yn elwa o ymrwymiad gwerthfawr a diysgog noddwyr a ffrindiau.