Ewch at gynnwys

Galwad Agored i Artistiaid o Liw

 

‘Rydym yn edrych am 6 ymarferydd creadigol o liw i ymuno â ni ar raglen fentora 6-mis: Lluosogrwydd. Nod y rhaglen yw creu gofod cefnogol i artistiaid i archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn gan roi cyfleoedd i ymgysylltu gyda chymuned o bobl greadigol amrywiol, y cyfle i ddatblygu’ch ymarfer artistig a darparu platfform ar gyfer trafodaeth ehangach o’ch gwaith trwy arddangosfa sylweddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

 

Ynglŷn â’r prosiect

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r artist Jasmine Violet yn gweithio mewn partneriaeth fel rhan o brosiect ehangach yn dwyn y teitl Persbectif(au), ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, i sicrhau newid sylweddol yn y modd y mae’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas.

 

‘Rydym wedi creu’r cyfleoedd hyn ar gyfer artistiaid o liw sy’n gweithio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gan ein bod yn dymuno dathlu’r cymunedau amrywiol sy’n ffurfio Cymru ar hyn o bryd, gan roi llwyfan i adrodd straeon nas mynegwyd a chreu ymatebion artistig sy’n cynrychioli croestoriad, lluosogrwydd, a bodoli rhwng tiroedd ac hunaniaeth. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar bwysigrwydd a pherthnasedd pobl o liw i’r gymuned Gymreig a’r effaith y maent wedi cael ar Gymru’r gorffennol a’r presennol.

 

 

Trwy ddarparu platfform i arddangos y gwaith creadigol a gynhyrchir fel rhan o’r prosiect, anelwn at greu trafodaeth gyda’r gymuned ehangach yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt trwy raglen gyhoeddus o sgyrsiau a gweithdai. Mae’r prosiect yn ceisio herio ffyrdd cyfredol o feddwl trwy ymgysylltu â chymunedau i archwilio’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth trwy lens wrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.

 

Y Cyfle

Arweinir y prosiect gan yr artist Jasmine Violet, gyda sesiynau gweithdy yn cael eu cynnal gan fentoriaid arbenigol.

Trwy weithio gyda Jasmine, y mentoriaid a Ffion Rhys, curadur arddangosfeydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ‘rydym yn anelu at roi cyfleoedd i artistiaid i:

  • Datblygu eu hymarfer creadigol mewn amgylchedd cefnogol o bobl greadigol a mentoriaid amrywiol.

 

  • Cymryd rhan mewn 6 gweithdy creadigol gyda mentoriaid arbenigol a fydd yn cyflwyno technegau ac ymarferion newydd, yn cynnwys serameg, creu printiau, perfformiad ac eraill.

 

  • Archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn trwy gymryd rhan mewn deialogau a phrosiectau cydweithredol a thrwy feithrin cyfnewid cyfoethog o syniadau a safbwyntiau.

 

  • Creu gwaith newydd a fydd yn ffurfio arddangosfa sylweddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

  • Gweithioi’n agos gyda Jasmine a Ffion i guradu’r arddangosfa, gan wneud penderfyniadau ar ddehongli, marchnata a chynllunio rhaglen gyhoeddus.

 

‘Rydym yn cynnig

  • Ffi o £2,000 i greu gwaith newydd.
  • Costau deunydd a theithio
  • Ffi am gymryd rhan mewn digwyddiadau/gweithdai cymunedol
  • Cefnogaeth artistig a churadurol gan yr artist arweiniol Jasmine Violet a Ffion Rhys, curadur.
  • Arddangosfa yng Nghanoilfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

Dyddiadau Allweddol

–           Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30ain Awst 2024

–           Cyfweliadau 10fed Medi

–           Cyfarfod cyntaf gyda’r grŵp o artistiaid – 23ain Medi

–            Chwe sesiwn creadigol gyda mentoriaid artistig rhwng mis Hydref i mis Ionawr

–           Cynllunio’r arddangosfa – curadurol, dehongli, marchnata a chynllunio rhaglen gyhoeddus gyda Jasmine a Ffion – Ionawr a Chwefror

–           Arddangosfa Mawrth 2025

 

 

Manyleb y person

  • Artist o Ganolbarth neu Orllewin Cymru (cyfrennir at gostau teithio fel bo angen)
  • Artist o liw neu threftadaeth amrywiol yn ddiwylliannol ac o ran cenedl.
  • Artist sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol ac yn wleidyddol gydag ymarfer sy’n archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn.
  • Yn agored i artistiaid sy’n gweithio ym mhob cyfrwng a disgyblaeth.
  • Rhaid medru ymrwymo i’r rhaglen 6 mis lawn a’r arddangosfa ym mis Mawrth 2025.
  • Gweithio’n dda o fewn tîm, gan sicrhau profiad dysgu positif a rennir o fewn y grŵp o artistiaid, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r gymuned ehangach.
  • Yn fodlon cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned gan gynnwys teithiau a sgyrsiau sy’n meithrin cysylltiadau a thrafodaethau newydd rhwng cymunedau gan arwain at well ddealltwriaeth o ddiwylliannau ei gilydd.

*’Rydym yn diffinio ‘artist o liw’ ac ‘amrywiol yn ddiwylliannol ac o ran cenedl’ fel:

 

  • Unrhyw un o’r diaspora Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd, Sbaenaidd, Latino, Dwyrain Ewrop neu’r Dwyrain Canol yng Nghymru.
  • Unrhyw un sy’n uniaethu fel aelod o grŵp ethnig nad yw’n Wyn yn unig.
  • Unrhyw un o Gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

 

 

 

Sut i gyflwyno cais

Anfonwch atom os gwelwch yn dda:

 

  • Datganiad artist sydd yn disgrifio eich ymarfer a cynnig sydd yn amlinellu:
  • paham yr hoffech fanteisio ar y cyfle hwn a paham mai ‘nawr yw’r amser iawn i chi.
  • sut mae’ch gwaith yn cydfynd â themâu perthyn, hunaniaeth, a lluosogrwydd.
  • beth ydych yn gobeithio ennill neu gyflawni.
  • sut ydych yn bwriadu defnyddio’r arian i greu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa.

 

–           5 delwedd o waith diweddar a dolen i wefannau/gwaith ar-lein os yn bosibl.

–           CV/Crynodeb yn cynnwys arddangosfeydd perthnasol, prosiectau, a phrofiad proffesiynol.

 

Anfonwch eich cais erbyn Awst 30ain i  multiplicity@aber.ac.uk

‘Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau trwy ddogfen destun neu ffeil awdio

Os oes gennych unrhyw gwestiynau – cysylltwch â ni ar multiplicity@aber.ac.uk

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais ac archwilio’r amrywiaeth gyfoethog o bersbectifau a fydd yn siapio’r prosiect Lluosogrwydd.

Mwy am y prosiect Persbectif(au)

Mae Persbectif(au) yn waith newydd ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, sy’n ceisio sicrhau newid sylweddol yn y modd y mae’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Dros gyfnod o ddwy flynedd, bydd gweithwyr creadigol proffesiynol, yn ein hachos ni Jasmine Violet, o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol, yn gweithio gyda’r amgueddfeydd a mudiadau celfyddydau gweledol i roi llwyfan i straeon sydd heb eu hadrodd, creu ymatebion artistig a gweithredu fel asiant ar gyfer newid. Mae’r rhaglen yn ceisio herio ffyrdd presennol o feddwl trwy ymgysylltu â chymunedau i archwilio’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth trwy lens gwrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.

Perspective(s) | Arts Council of Wales

Mwy am Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw un o’r Canolfannau Celfyddydau mwyaf yng Nghymru ac mae’n ganolfan aml-gelfyddyd sy’n cynhyrchu a chyflwyno rhaglen o theatr, ffilm, cerddoriaeth ac arddangosfeydd ochr yn ochr â rhaglen ddysgu creadigol sy’n gwasanaethu campws y brifysgol, cymuned Ceredigion a thu hwnt. Mae ein rhaglen arddangosfeydd yn rhoi llwyfan i arddangos y gorau oll mewn celf gyfoes, gan arddangos gwaith gan artistiaid cyfoes  cenedlaethol a rhyngwladol. ‘Rydym yn cynnig amgylchedd o ansawdd uchel i arddangos gwaith, gydag un o’r gofodau celf gyfoes mwyaf yng Nghymru yn ein Horiel 1 bwrpasol ar gyfer artistiaid sefydledig ac arddangosfeydd ar raddfa fawr; Oriel 2 fel gofod pwrpasol i gefnogi ein cenhedlaeth nesaf o artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg ac oriel y caffi a gofod ffenestr y Piazza ar gyfer gwaith sy’n canolbwyntio ar gymuned.   Mae gennym raglen dreigl o breswyliadau artistiaid gyda’n gofod stiwdio a adeiladwyd yn arbennig, gan roi cyfleoedd i artistiaid ddatblygu eu hymarfer eu hunain mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

 

Home – Aber Arts (aberystwythartscentre.co.uk)