Ewch at gynnwys

Gwneuthurwr Printiau Mewn Focus: Nigel Morris

 Gwe 17 Tachwedd 2023 i Sadwrn 14 Ionawr 2024

Arddangosfa Fan Hyn a Fan Draw

Mae printiau a dyfrlliwiau Nigel Morris yn chwarae â chanfyddiadau gweledol: o linellau organig, dolennog y gyfres Entangled, sy’n ymddangos fel petai nhw’n torchi a throi dros ac o dan ei gilydd i’r llinellau clir, geometrig y printiau adeiledig lle mae rhith gofod yn dod yn realiti wrth i’r printiau gael eu torri a’u llunio i ffurfio cyfres o sgwariau a phyramidiau.

Mae gwaith Nigel yn esblygu o haniaeth, cymesuredd a systemau, ac yn gyforiog o awgrymiadau o edeifion, planhigion a bywyd microsgopig.

Rydym yn hapus i gydweithio gyda Chanolfan Crefft Rhuthin ar yr arddangosfa yma.

Ymweld â Gwefan Nigel