Tachwedd 10fed – Chwefror 8fed
Yn dilyn llwyddiant arddangosfa gwneuthurwr printiau Aberystwyth/IBERS, Miscanthus, yn 2024 ‘rydym yn falch i gyhoeddi cydweithrediad eleni ar thema arfordir canolbarth Cymru, gyda’r ffocws ar wymon.
Mae’r ddau bartner yn gymdogion agos ar gampws IBERS ac yn awyddus i ddatblygu’r rhyngwyneb rhwng celf a gwyddoniaeth. Byddwn yn tynnu ar arbenigedd a gwybodaeth academyddion, gwyddonwyr ymchwil, haneswyr ac artistiaid ynghyd â’n cymuned leol. Bydd yr arddangosfa ganlyniadol yn cyd-fynd â Chynhadledd Cymdeithas Wymonegol Prydain a gynhelir yn Aberystwyth yn gynnar yn 2026.
