Mehefin 21ain – Hydref 12fed
Wedi eu Huwchgylchu a’u Cydosod yng Nghymru.
Arddangosfa o waith gan artistiaid sy’n uwchgylchu, yn ail-ddefnyddio ac yn ail-osod deunyddiau a deflir i ffwrdd i greu gweithiau newydd. Yn cynnwys serameg gan Elif Ağatekin, Sally Stubbings a Bonnie Grace a weithiodd gyda deunydd o Weithfeydd Porslen Nantgarw, yn ogystal â serameg gan Peter Bodenham a Cleo Mussi, a gwydr gan Linda Norris. Hefyd, fe arddangosir gweithiau o Gasgliad Serameg y Brifysgol.
(llun- Irregular Housing, Elif Ağatekin)
