Ewch at gynnwys

Teulu Family

Casgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth yw un o’r prif gasgliadau o serameg anniwydiannol Prydeinig a rhyngwladol ym Mhrydain. Mae’n rhan o Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf sydd â statws achrediad amgueddfa llawn ac a gefnogir gan Archif Serameg. ‘Rydym yn mynd ati i gasglu serameg Brydeinig a rhyngwladol gyda ffocws arbennig ar gynrychioli seramegyddion sy’n gweithio yng Nghymru.

Lleolir yr Oriel Serameg ar lawr isaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae’n nodweddu detholiad o grochenwaith stiwdio arloesol, gan gynnwys gwaith gan Bernard Leach, Shoji Hamada, Frances Richards, Y Brodyr Martin, Norah Braden, Katharine Pleydell-Bouverie, Michael Cardew, Lucie Rie, Hans Coper ac eraill. Hefyd yn arddangos yn yr oriel gefn gwelir enghreifftiau o lestri slip Cymreig a Seisnig o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal â phorslen Abertawe a Nantgarw. Mae gan yr oriel flaen raglen newidiol o arddangosfeydd yn nodweddu seramegyddion cyfoes a sioeau wedu eu curadu o’r casgliad. Trefnir anerchiadau, digwyddiadau a gweithgareddau teuluol gan Ganolfan y Celfyddydau gydol y flwyddyn. http://www.ceramics-aberystwyth.