Ewch at gynnwys

Mae’r artist, hanesydd celf ac actifydd Cymreig Ivor Davies yn un o ffigurau mwyaf blaenllaw celf gyfoes Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn ystyried ei yrfa sy’n ymestyn dros 90 mlynedd, gan gyflwyno cwestiynau o arwyddocâd moesegol, ysbrydol a chenedlaethol.

Mae amrywiaeth enfawr o genres, cyfryngau a gwrthrychau yn nodweddu ei waith: gwaith haniaethol, portreadau, tirluniau, bywyd llonydd, ffilmiau o theatr ffrwydrol ddinistriol / greadigol / newidiadol, a thraethu unigryw ar bynciau sy’n cynnwys y Mabinogion, tywysogion Cymru, llenyddiaeth, seintiau, heriau hanesyddol ac arwyr gwleidyddol Cymru.

(Llun: Branwen, Ivor Davies)