Sgwrs gan yr Artist – Stiwdio Gron, Medi 26ain 6yp
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â ni, a’r artist a’r awdur Tom Cardew, ar gyfer ei gyflwyniad a fydd yn archwilio gwaith sydd ar y gweill o ganlyniad i’n rhaglen gyfnewid preswyliadau rhyngwladol MAGNETIC sy’n meithrin cyfnewid diwylliannol rhwng Llydaw a Chymru.
Fe fydd Tom yn cyflwyno Death in the Age of Plenty – prosiect yn y broses o gael ei wneud sy’n archwilio chwedlau Llydaweg, iaith, a chwaliad y system, lle mae Ankou, cyfaill angau, yn mynychu ffermydd gwynt a megalithau, yn casglu’r hyn sydd ar ôl o stori, credodau, a chymdeithas.
“Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu gwaith sydd ar y gweill o’r cyfnod Ymchwil a Datblygu cyfredol: tameidiau o sgript, astudiaethau gweledol, a deunydd ffilm cynnar a ddatblygwyd ar leoliad yng Nghymru a Llydaw, gyda chefnogaeth gan y Maison des Mégalithes, Carnac. Byddaf hefyd yn trafod y weledigaeth ehangach ar gyfer yr arddangosfa, gan gyfuno delwedd symudol, elfennau cerfluniol, a gweithiau ar bapur, ac ystyriaeth o sut mae’r prosiect yn mynd i’r afael â phryderon a rennir o ran colli iaith, cwymp amgylcheddol, a pharhad myth.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys dangosiad o’m ffilm flaenorol Machynys Forgets Itself ochr yn ochr â chyflwyniad o’r prosiect Cymraeg-Llydaweg newydd hwn sydd ar y gweill.”Mae’r ddigwyddiad am ddim ac yn ddi-docyn

