Mehefin 13eg – Gorffennaf 27ain
Mae Ben Boswell wedi bod yn tynnu lluniau o seramegyddion ers dros 40 mlynedd. Ers 2017 mae wedi bod yn dogfennu’r Ŵyl Serameg Ryngwladol gyda ffocws ar yr arddangosiadau, ar y prif lwyfan ac yn y pebyll mawr.
“Pan ddechreuais dynnu lluniau o grochenwyr, ‘roeddwn yn meddwl bod fy niddordeb yn bennaf yn y gwneuthurwyr eu hunain, grŵp o bobl y mae gennyf gysylltiad agos â nhw. Yr hyn a sylweddolais, wrth edrych ar y lluniau’n ofalus, oedd bod fy ffocws yn hytrach ar y berthynas unigryw rhwng y crochenydd a’i ddeunydd – y ffordd y mae dwylo neu offer yn trawsffurfio’r clai o fwd i mewn i wrthrychau o harddwch a soffistigedigrwydd.”