Ewch at gynnwys

Cwblhewch y ffurflen hon.

(Ffurflen Clyweliad)

THE WIZARD OF OZ (fersiwn RSC)

Cyfarwyddir gan Richard Cheshire

Cyfarwyddwraig Gerddorol Ieuenctid a Chymuned Elinor Powell

Dydd Sul 30ain Mawrth

Ystafell Ymarfer 1 10am-12pm neu Stiwdio Ddawns 1&2 3-5pm – Grŵp Iau

Stiwdios Dawns 1&2 5pm-7pm – Ieuenctid Hŷn / Cymuned

 

GRŴP IAU 9 oed+

‘Rydym yn edrych am 2 grŵp o 15 o actorion, cantorion a dawnswyr talentog i chwarae’r Munchkins sy’n croesawu Dorothy i wlad Oz yn Act Un. Mae’r Munchkins yn frwdfrydig, yn fywiog ac yn llawn hwyl; maent yn wengar iawn a bydd nifer o’r rhai a ddewisir yn chwarae’r prif rannau ac yn cael rhai llinellau. Bydd pawb a ddewisir yn canu Ding Dong the Witch is Dead, We Welcome You to Munchkinland a Follow the Yellow Brick Road/We’re off to See the Wizard.

Ar gyfer y clyweliad gofynnir i chi ddysgu’r gân enwog We’re Off to See the Wizard.

 

GRŴP IEUENCTID HŶN / CYMUNED 14 oed+

‘Rydym yn edrych am 2 grŵp o 15 o actorion, cantorion a dawnswyr talentog i chwarae dinasyddion Dinas Emarald Oz yn Act Dau. Maent mewn sawl cân yn Act 2 gan gynnwys Merry Old Land of Oz ac yn chwarae gwahanol gymeriadau Oziaidd wrth iddynt groesawu Dorothy, Y Llew, y Gŵr Tun a’r Bwgan Brain i’w dinas. Efallai y byddant hefyd yn chwarae’r mwncïod asgellog a gwarchodwyr Gwrach Ddrwg y Gorllewin etc.

Mae’n bosibl gwneud cais i gymryd rhan mewn pob perfformiad os ydych yn y grŵp hwn.

Mae’n bosibl hefyd y gofynnir i dri o’r cantorion cryf yn y grŵp hwn i wneud rhywfaint o ganu harmoni agos yn Act Un.

Ar gyfer y clyweliad gofynnir i chi ddysgu’r gân enwog Merry Old Land of Oz.

 

DYDDIADAU

Cynhelir rhai ymarferion cerddoriaeth ym mis Mehefin.

Bydd y prif ymarferion yn dechrau ar 7fed Gorffennaf a bydd y sioe yn agor ar 8fed Awst.

Bydd y perfformiad olaf ar 31ain Awst.

Cyhoeddir yr amserlen ymarfer a pherfformio lawn ar ôl y castio.