Event Info
Nos Wener 3 Hydref, 7.00yh, 60 munud
Tocynnau: £20.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Digrifwr Americanaidd yw Rory Scovel sy’n dychwelyd i Ewrop/y DU i berfformio ei steil o gomedi, sydd weithiau’n gwbl fyrfyfyr, am nifer penodol o nosweithiau. Gellir ffrydio ei sioe gomedi ddiweddaraf RORY SCOVEL: RELIGION, SEX, AND A FEW THINGS IN BETWEEN ar Max ar hyn o bryd. Fe welir ef nesaf ochr yn ochr â Reese Witherspoon a Will Ferrell yng nghomedi ramantus Amazon YOU’RE CORDIALLY INVITED ac yn y gomedi dywyll NO GOOD DEED ar Netflix.
Ymddangosodd Scovel yn BABYLON Paramount a gyfarwyddwyd gan Damien Chazelle, a enillodd i’r cast enwebiad yr Urdd Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm. Mae credydau ffilm ychwanegol yn cynnwys I FEEL PETTY gan Voltage Pictures gyferbyn ag Amy Schumer; OLD DADS Netflix ochr yn ochr â Bill Burr, Bobby Cannavale, a Bokeem Woodbine; THE HOUSE gan New Line ochr yn ochr â Will Ferrell ac Amy Poehler; THE LEGACY OF A WHITETAIL DEER HUNTER ochr yn ochr â Danny McBride a Josh Brolin, a ffilm gyntaf Demetri Martin fel cyfarwyddwr DEAN a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Tribeca.
Ar y sgrîn fach, serennodd yn fwyaf diweddar yng nghyfres Apple TV+ PHYSICAL gyferbyn â Rose Byrne a fu'n rhedeg am dri thymor; a gellir ei weld yn nhymor dau o BASED ON A TRUE STORY gan wasanaeth ffrydio Peacock. Mae credydau teledu ychwanegol yn cynnwys ROBBIE ar Comedy Central; SUPERSTORE ac UNDATEABLE ar NBC; MODERN FAMILY ar sianel ABC; THE COMEDIANS ar FX; GROUND FLOOR a WRECKED ar TBS; cyfres TruTv THOSE WHO CAN’T; a rhoddodd fenthyg ei lais i gyfres wreiddiol DC/Max KITE MAN: HELL YEAH!
Cynhwyswyd stand-yp Rory ar Comedy Central, CONAN, a LATE NIGHT gyda Jimmy Fallon. Rhyddhawyd ei ail albwm, RORY SCOVEL LIVE AT THIRD MAN RECORDS, yn 2013, wedi’i recordio’n fyw yn eu stiwdios yn Nashville. Yn 2015 rhyddhaodd RORY SCOVEL: THE CHARLESTON SPECIAL, gyda’i sioe arbennig ar Netflix RORY SCOVEL TRIES STAND-UP FOR THE FIRST TIME yn dilyn yn 2017.
18 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.