Event Info
Canllaw Oedran: Croeso i bawb
Trefn Amseri: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwraig ac yn aml-offerynnwraig sy'n manglo, yn dehongli ac yn trawsffurfio cerddoriaeth draddodiadol. Mae’n archwilio posibiliadau creadigol a rhinweddau unigryw’r delyn deires, ac mae hi hefyd yn ymddiddori mewn synau a ddarganfuwyd, deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Daw hi o Fachynlleth, lle mae afonydd a ffyrdd yn cyfarfod ar y ffordd i’r môr.
Mae Cerys wedi swyno cynulleidfaoedd yn amrwyio o Ŵyl Green Man i’r Eisteddfod ac o Ŵyl Gerddoriaeth BBC 6 i Celtic Connections gyda’i sain hudolus, arloesol.
Ysbrydolwyd Edyf, ei hail albwm, gan ddeunydd y daeth o hyd iddo yn archif ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys darnau o donau Salmau, emynau am ddydd y farn a myfyrdodau athronyddol ar hyd tragwyddoldeb, ynghyd â nifer o gyfansoddiadau gwreiddiol. Dewiswyd yr albwm fel un o Ddeg Albwm Gwerin y Guardian yn 2022. Mae EP diweddaraf Cerys, The Bitter, a ryddhawyd yn 2024, yn ystyriaeth ddyfeisgar o nifer o faledi Seisnig ac Albanaidd tywyll.
“eerie folk fusion and creative use of harp and found sounds. Innovation abounds…. likely to take a song that we all know so well and tilt it to one side.”Tradfolk
'…she’s an adept shapeshifter, entwining tradition with direct and personal interpretations to create music that’s both progressive, profound and inspiring.' Alex Gallagher, Folk Radio UK
'Hafana explores resonances from the past that connect with the modern day in a contemporary, creative way... she uses her harp as a percussive, jagged-toothed tool… sings movingly, her high voice like an indie-pop soprano shorn of its sweetness.’ Jude Rogers, The Guardian.
Iaith y Perfformiad: Cymraeg a Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.