Event Info
Cyngyrchiad Haf 2025 gan Canbolfan y Celfyddydau Aberystwyth
The Wizard of Oz
Cyfarwyddwr Richard Cheshire
Cyfarwyddwr Cerddorol David Roper.
Coreograffydd James Bennett
‘Rydym ar ein ffordd i weld y Dewin!
Ymunwch â ni ar y Yellow Brick Road a thros yr enfys i Wlad Oz, lle ymunir â Dorothy a’i chi ffyddlon Toto gan ffrindiau newydd sef y Bwgan Brain, y Gŵr Tun a’r Llew Llwfr wrth iddi geisio ffeindio’i ffordd adref.
Gyda chast proffesiynol a band byw, ‘rydym yn addo noson o gerddoriaeth fendigedig, gwrachod drygionus (a rhai da hefyd), a’r gwerthoedd cynhyrchu uchel y mae Sioeau Haf Canolfan y Celfyddydau yn adnabyddus amdanynt.
Os oeddech wedi mwynhau Wicked, wel dewch draw i weld beth ddigwyddodd nesaf…
Perfformiad BSL ar Ddydd Sadwrn, 23 Awst 7yh - ARCHEBWCH YMA - Cyfieithydd BSL Tony Evans
Seddi gorau i weld Tony - eisteddwch ar ochr chwith y theatr - yn wynebu'r llwyfan.
Perfformiad Ymlaciol ar Ddydd Iau 21 Awst 2yp - ARCHEBWCH YMA
CYNIG ARBENNIG: Gweler ‘Wicked’ yn y sinema am dim ond £5.50, os oes gennych docyn i weld Wizard of Oz. Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i hawlio eich gostyngiad arbennig. Dangosir rhwng 8fed - 11eg a’r 13eg o Awst.
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( dim babanod 2 oed neu o dan 2 oed )
Rhediad: Tua 2.5 awr gan gynnwys toriad 20 munud
Canllawiau Cynnwys: Sylwch fod y perfformiad hwn yn cynnwys defnyddio mwg theatraidd a swigod, goleuadau'n fflachio, goleuadau disglair a sŵn uchel.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.