Event Info
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: 75 munud ( dim toriad)
Yn dilyn llwyddiant ysgubol rhyngwladol The Nature of Forgetting, mae Theatr Re yn dychwelyd gyda 'tapestri cyfoethog o ddynoliaeth sydd ohoni ' (The Scotsman) am famolaeth, bywyd a chariad.
Mae Emily wyth mis yn feichiog pan mae’n darllen dyddiadur ei nain. Wrth iddi dreiddio i ddyfnderoedd ei hanes teuluol, mae’r tudalennau’n datgelu etifeddiaeth o ddewrder, trasiedïau nas llefarwyd a chariad diamod.
Fel un o gwmnïau theatr weledol mwyaf blaenllaw’r DU, mae Theatr Re yn cyfuno cerddoriaeth fyw wreiddiol gyda theatr weledol drawiadol i greu cynyrchiadau di-eiriau, hynod deimladwy o’r safon uchaf am heriau dynol byd-eang a breuder bywyd.
‘Darn o waith hynod brydferth, hynod swynol’ ★★★★★★
Mae sgwrs ar ôl y sioe wedi’r perfformiad ar y 14 Rhagfyr.
Canllawiau Cynnwys: Mae'r darn yn delio â cholli beichiogrwydd.
Gwybodaeth Mynediad: Mae'r perfformiad yn hygyrch i gynulleidfaoedd byddar (d/Deaf) gan fod dim ond ychydig o eiriau llafar.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.