Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 17 Hyd
·
Storytelling

Event Info

Canllaw Oedran: 14+ oed

Rhediad: 75 munud heb toriad

Gadewch i mi ddweud wrthych hanes y dref ddychmygol ‘roeddwn yn byw ynddi fel bachgen …”

Mae'r casgliad hwn o straeon comig tywyll wedi'u plethu at ei gilydd gan awdur arobryn y BBC Shôn Dale-Jones, “y storïwr Cymreig mawr” (The Stage), yn sôn gymaint am y dychymyg ag y mae am ddiniweidrwydd ac am beth i wneud gyda’r pethau ‘rydym yn gwybod.

Mae Shôn yn mynd â ni o'r pwll nofio gwag i fyny'r bryn i'r tu ôl i'r coed, gan ein cyflwyno i’r Tarzan pum troedfedd, Delyth Ddwbl a'r Arglwydd Ivor wrth i ni deimlo tynfa magnetig yr afon yn ein sugno i mewn. Wrth i'r dref ddychmygol hon ddechrau teimlo'n fwy real, mae Shôn yn pendroni beth sy'n digwydd i'w ddychymyg - mae'n rhedeg yn wyllt. Yn llawen, yn corddi’r stumog, yn gyffrous ac yn ddoniol iawn - a all hon fod y sioe orau i Shôn ei gwneud erioed? Gall fod.

Iaith y perfformiad: Saesneg

Canllawiau Cynnwys: Iaith o natur rhywiol/ Rhegi / Iaith gref

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 17 Hydref, 2025
19:45