Event Info
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: tua 90 - 120 munud - cadarnhad I’w ddilyn
Cynhyrchiad Theatr Cymru mewn cydweithrediad â Shakespeare’sGlobe
Romeo a Juliet
Gan William ShakespeareYn seiliedig argyfieithiad J. T. Jones
“Fe syrthiodd iaith dy galon ar fy nghlyw, yn ddiarwybod im”
Dau deulu,dwy iaith a phâr o gariadonifanc sy’n barod ifentro popeth.
Mae angerdd gwefreiddiol yn arwain at anrhefn llwyr, wrth i gymdeithas sydd ar y dibyn wrthdaro a newid trywydd cariad am byth.
Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod y ffrae ffyrnig rhwng y teuluoedd Montague a Capulet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru.
Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.
Iaith y perfformiad: Cymraeg a Saesneg - Darperir capsiynau Cymraeg a Saesneg drwy gyfrwng yr ap Sibrwd
Canllawiau Cynnwys: Golygfeydd o drais/ rhyw/ hunanladdiad/ llofruddiaeth
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.