Event Info
Canllaw Oedran: 14+ years
Rhediad: 80 munud dim toriad
Martin Decker: DAD
Gan Keiron Self a Kevin Jones
Beth sy’n gwneud tad gwych? Mae Martin yn meddwl ei fod yn gwybod ac yn benderfynol o rannu’r wybodaeth. Mae’r daith ddoniol-dywyll, lawn teimlad hon yn archwilio’r tadau wnaeth siapio Martin - o Darth Vader i’w arwr yn ei blentyndod, Indiana Jones.
Gan gynnwys ail greu ffilmiau yn fyw, dynwarediadau llain a pherffaith o Harrison Ford a gwahoddedigion annisgwylar y sgrin, mae’r sioe hon yn siarad â phob tad sydd erioed wedi ystyried a yw’n ddigon. Ond i Martin mae’n ymddangos bod llawer mwy yn y fantol –ai achub ei fab,neu ei achub ei hun sydd dan sylw?
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Thema o alcoholiaeth, camdriniaeth ddomestig a marwolaeth
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.