Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 4 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sadwrn 4 Hydref, 6yh, 60 munud

Tocynnau: £13.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Amser Adfywio - Aeth Stuart â'r sioe hon ar daith, cafodd 12 o adolygiadau 4 seren a datblygodd yn rhywbeth gwahanol. Mae wrth ei fodd yn gwneud y sioe hon ac felly mae am gyflwyno fersiwn newydd ohoni, ynfwy cŵl, yn fwy slic ac efallai hyd yn oed yn fwy secsi.

Os nad ydych wedi gweld y sioe o'r blaen: Mae Stuart yn ddigrifwr stand-yp gyda steil gwirion iawn, yn adrodd straeon arsylwadol gyda bachyn strwythurol taclus - mae’r sioe hon ar thema perthnasoedd, o bersbectif rhywun a gafodd ei gadarnhau’n awtistig yn ei 30au hwyr.

“Laws yw un o’r digrifwyr mwyaf medrus a hoffus ar y gylchdaith … sioe ddifyr iawnllawn jôcs.”★★★★ The Scotsman

“Yn adleisio’r diweddar feistr ar gomedi, Sean Lock.” ★★★★ Beyond the Joke

“Digrifwr talentog sy’n creu awr solet o gomedi glyfar, wirion, feddylgar a swrrealaidd allan o deimladau o ddieithrwch cymdeithasol”

14 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 04 Hydref, 2025
18:00