Event Info
Oedran: 9 - 18 oed
Lleoliad: Uned 5 & 6
Amser: 10yb - 4yp
A ydych wrth eich bodd efo cartwnau a ffilmiau animeiddiedig? Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae’ch hoff gymeriadau yn dod yn fyw? Dyma’ch cyfle i ddysgu am fyd anhygoel animeiddio gyda’r Charlie Carter gwych! Darganfyddwch y cyfrinachau y tu ôl i wneud cartwnau ac animeiddiadau. Dysgwch animeiddiad traddodiadol wedi'i dynnu â llaw a thechnegau digidol hynod cŵl! Bydd Charlie yn dangos y pethau sylfaenol i chi ac yn eich helpu i greu eich golygfa animeiddiedig eich hun! Gwyliwch Charlie wrth iddo ddod â chymeriadau'n fyw o flaen eich llygaid. Dewch i weld sut y gall llun syml droi'n gymeriad animeiddiedig bywiog trwy ddilyn ond ychydig o gamau.
Dyma gyfle gwych i gyfarfod â phobl ifanc eraill sy’n caru arlunio ac animeiddiad. Gallwch rannu’ch syniadau, dangos eich celf, a chael hwyl efo’ch gilydd! Erbyn diwedd y dydd, byddwch wedi gwneud eich animeiddiad bychan eich hun i ddangos i'ch ffrindiau a'ch teulu.
Os ydych yn caru darlunio, adrodd straeon, neu jyst gwylio cartwnau, bydd y diwrnod hwn yn tanio'ch creadigrwydd ac yn eich gwneud chi’n awyddus i greu mwy!
Noddir tymor Haf Wiced Canolfan y Celfyddydau gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion.Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r Gronfa yn anelu at wella balchder mewn lleoliadau a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau.