Oedran: 7+ oed
Lleoliad: Stiwdio 2D
Sessiwn Bore neu Prynhawn: 10.30yb - 12.30yp yn y bore / 1.30yp - 3.30yp yn y prynhawn
Ymunwch â'r artist Ruth Packham am weithdy Argraffu Sgrin gyffrous ar gyfer plant! Perffaith ar gyfer plant ifanc o 7 oed i fyny, bydd y sesiynau ymarferol hyn yn cyflwyno plant i hud argraffu sgrin wrth iddynt ddylunio a phrintio eu gwaith celf unigryw eu hunain ar grysau T neu fagiau. Crëwch eich argraffiadau eich hun wedi'u hysbrydoli gan y delweddau a'r cymeriadau eiconig o'r sioe haf – The Wizard of Oz. Bydd y plant yn mynd adref gyda'u hargraffiadau llaw eu hunain – crefft berffaith i gadw neu i roi'n anrheg.
Noddir tymor Haf Wiced Canolfan y Celfyddydau
gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth
Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion.Mae Cronfa Ffyniant
Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu
£2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r
Gronfa yn anelu at wella balchder mewn lleoliadau a chynyddu cyfleoedd bywyd
ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol,
pobl a sgiliau.