Event Info
Canllaw Oedrani: 7 - 20 oed
Rhediad: 12yp - 4yp
Amserlen:
12 canol dydd Straeon i’ch Croesawu - adroddir gan Ffion Phillips a Peter Stevenson
1.00 Gweithdy 1: Gemau Adrodd Straeon: Digonedd o hwyl i bawb o dan arweiniad Fiona Collins
2.00 Gweithdy 2: Straeon a’ch Dychymyg: Dysgwch grefft adrodd straeon o dan arweiniad Peter Stevenson
3.00 Cylch Stori: Adroddwch stori, jôc neu bos, canwch gân neu ddawnsiwch ddawns: Dyma’ch amser chi i ddisgleirio o dan arweiniad Milly Jackdaw
3.45 Seremoni Fawreddog i gloi - Gyda Ffion, Fiona, Milly a Peter
4.00 Diwedd yr Ŵyl - Fe’ch gwelwn y flwyddyn nesaf!
Gŵyl wych llawn straeon ar gyfer storïwyr ifanc o bob oedran.
Os ydych yn dod at fyd straeon am y tro cyntaf neu'n gwybod eisoes mai dyma'ch lle perffaith, mae hyn ar ei chyfer chi!
Cewch gyfle i wrando ar awgrymiadau gan storïwyr proffesiynol, rhoi cynnig ar bethau newydd, a syfrdanu pawb gyda'ch sgiliau adrodd straeon.
Ar gyfer storïwyr ifanc rhwng 7 ac 20 oed. (Croeso i rieni a selogion eraill hefyd)
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.