Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 4 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sadwrn 4 Hydref, 6pm, 60 munud

Tocynnau: £16

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Ystafell 2D

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Pan ‘roedd Liam yn 18 oed symudodd o Dagenham i Gaeredin, heb ddweud wrth ei rieni. Mae Liam yn dychwelyd i Theatr Soho gyda stori am adael cartref, dod i delerau â phwy yw eich rhieni a beth i'w wneud pan mae hyfforddwr personol yn llithro i mewn i'ch gofod personol.

Mae gan Liam dros 10 miliwn o ymweliadau TikTok/Instagram ac ‘roedd ei sioe yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2023 Chronic Boom yn llwyddiant ysgubol a gafodd dderbyniad brwd gan y critigyddion, gan gasglu un ar bymtheg o adolygiadau 4 a 5 seren, ac yn ei gwneud yn un o'r sioeau comedi a adolygwyd gorau yn 2023.

“Nid yw’r dorf yn gallu cael digon” ***** The Independent

“Weithiau’n ysgytwol, yn aml yn ddwys ond bob amser yn ddoniol iawn” **** The List

"Gwledd ymylol annisgwyl" **** The Times

“Dim un curiad comedig yn methu” ***** The Wee Review

**** The Skinny **** Fest Mag **** Chortle

14 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 04 Hydref, 2025
18:00