Event Info
Ymunir â’r enillydd Gwobr Olivier, Jack Lowden (Slow Horses, Dunkirk), gan enillydd gwobrau Emmy a BAFTA, Martin Freeman (The Hobbit, The Responder), mewn drama newydd ddifyr gan David Ireland sydd wedi cael derbyniad brwd gan gritigyddion.
Ar ôl blynyddoedd yn dilyn rhaglen 12-cam Alcoholigion Anhysbys, daw James yn noddwr i'r newydd-ddyfodiad Luka. Mae'r ddau yn dod i nabod ei gilydd dros goffi du, yn rhannu straeon ac yn adeiladu cyfeillgarwch bregus o'u profiadau a rennir. Ond wrth i Luka agosáu at gam pump - yr eiliad o gyffesu - mae gwirioneddau peryglus yn dod i'r amlwg, sy’n bygwth yr ymddiriedaeth y mae adferiad y ddau yn dibynnu arni. Finn den Hertog sy'n cyfarwyddo'r cynhyrchiad pryfoclyd a difyr hwn a ffilmiwyd yn fyw o @sohoplace yn West End Llundain.
100 munud i’w gadarnhau.
Dechrau ar amser – dim hysbysebion