Event Info
Bydd John Sylvester a Julie McNicholls Vale yn perfformio ym mar cyntedd y theatr ar Ddydd Iau'r 14eg rhwng 5yh – 6yh.
Ymunwch â nhw yn y bar am 'Emerald City Nights ' – am amrywiaeth o ganeuon adnabyddus.
Mae’r chwaraewr allweddfwrdd o Aberystwyth, John Sylvester, wedi chwarae mewn amrywiaeth o fandiau, ac yn dilyn llawer o gynyrchiadau theatr Castaway yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel cyfarwyddwr cerddorol, ffurfiodd bartneriaeth gerddorol hirsefydlog gyda Julie McNicholls Vale, gan ddifyrru cynulleidfaoedd gydag amrediad eang o bop, roc a chlasuron y sioeau cerdd.
Mae Julie yn adnabyddus hefyd fel aelod gwreiddiol o Sgarmes, a ymddangosodd ar'Pitch Battle' ar BBC 1; fel un hanner o’r grŵp merched Motown The Hornettes Take Two, a pherfformwraig reolaidd ym mhantomeimiau'r Wardeniaid.
Mae Julie a John yn perfformio’n rheolaidd yn ac o gwmpas Aberystwyth ac maent yn edrych ymlaen at gefnogi’r sioe haf eleni.