Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: 90-100 munud gan gynnwys toriad 20 munud
Ydych Chi'n Barod i Rocio? .... Oherwydd mae Justin wedi cael y band yn ôl at ei gilydd!
Yn enwog am ei ymddangosiadau arobryn BAFTA mewn rhaglenni poblogaidd megis Something Special, Justin’s House, Gigglebiz a Gigglequiz, mae Justin a'i ffrindiau yn ôl, yn serennu mewn sioe theatr roc-tastig newydd sbon.
Mae Justin Time To Rock yn sioe wych sy'n addas i'r teulu i gyd. Mae Justin a'i ffrindiau'n rhoi band roc at ei gilydd. Ond gyda chymaint o ganeuon i ddewis ohonynt, bydd angen eich help chi arnynt i ddewis y caneuon gorau i gael y gynulleidfa’n canu ac yn dawnsio.
Dewch i weld megaseren CBeebies, Justin Fletcher, yn fyw ar y llwyfan, mewn strafagansa llawn caneuon poblogaidd, dawnsio llawn egni, comedi wych a digonedd o hwyl roc-tastig!
Dewch draw i rocio gyda Justin a'i ffrindiau!
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.