Event Info
Nos Wener 3 Hydref, 5yh, 60 munud
Tocynnau: AM DDIM ond mae angen tocyn
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Ydych chi wedi ystyried erioed pam ‘rydym yn chwerthin a beth sy'n gwneud pethau'n ddoniol? Beth sydd mor gyfareddol am hiwmor sy’n ein gwneud ni ddod yn ôl o hyd am ragor?
‘Dydio ddim yn jôc - mae hiwmor yn fusnes difrifol. Yn y sgwrs hon, mae academydd sy'n astudio hiwmor fel bywoliaeth (ydi, mae honno'n swydd go iawn) yn mynd â chi ar wibdaith trwy wyddoniaeth yr hyn sy'n gwneud i ni chwerthin, pam mae rhai jôcs yn llwyddo ac eraill dim, a sut y gall hyd yn oed anifeiliaid eraill jocio a chwerthin hefyd.
Pam y gwnaeth hiwmor esblygu? Pa mor bwysig ydio o ran goroesi, bondio cymdeithasol, neu ddewis cymar? Beth mae gwyddoniaeth yn dweud mewn gwirionedd am chwerthin fel y feddyginiaeth orau?
Gallwch ddisgwyl ychydig o chwerthin, ychydig o wyddoniaeth, ac efallai hyd yn oed ychydig o chwarae lletchwith ar eiriau.Oherwydd gadewch i ni fod yn onest - mae ffraethineb yn digwydd.
Pob Oedran
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.