Event Info
Canllaw Oedran: 14+ oed
Rhediad: 90 munud - dim toriad
Mae un o actorion enwocaf Cymru, enillydd Gwobr Emmy Matthew Rhys, yn dychwelyd i lwyfan Cymru am y tro cyntaf ers 22 mlynedd yn y ddrama un-dynglodwiw hon am y seren ryngwladol Richard Burton. Wedi’i chyfarwyddo gan enillydd Gwobr Tony Bartlett Sher ac wedi’i hysgrifennu gan Mark Jenkins, mae Playing Burton yn cynnig cipolwg treiddgar ar fywyd yr actor, o’i ddechreuadau tlawd yn Ne Cymru i’w esgyniad fel un o berfformwyr mwyaf ei genhedlaeth. Gyda hiwmor, didwylledd a gonestrwydd, mae’r ddrama’n archwilio perthynas dymhestlog Burton ag Elizabeth Taylor, ei frwydr gyhoeddus yn erbyn alcoholiaeth, a’r ymdrech i gydbwyso enwogrwydd, uchelgais a hunaniaeth.
Digwyddiad codi arian i gefnogi tymor cyntaf Welsh National Theatre.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Rhegu / Iaith sarhaus a chyfeiriadau at alcoholiaeth drwy'r perfformiad
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.