Event Info
Nos Fawrth 21 Hydref, 2025 - 6pm
Encôr a recordiwyd 24 Hydref 2025 1pm
195 munud, 1 egwyl
Yn dilyn perfformiadau buddugoliaethus Live in HD yn Roméo et Juliette gan Gounod, La Traviata gan Verdi, a Lucia di Lammermoor gan Donizetti, mae Nadine Sierra yn cyrraedd copa arall yn repertoire y soprano fel Amina, sy'n cerdded yn ei chwsg i galonnau cynulleidfaoedd yn stori deimladwy Bellini am gariad a gollwyd a darganfuwyd. Yn ei gynhyrchiad newydd, mae Rolando Villazón - y tenor sydd wedi cychwyn ar ail yrfa ddisglair fel cyfarwyddwr - yn cadw lleoliad gwreiddiol yr opera yn Alpau'r Swistir ond yn defnyddio ei phlot anghyffredin i archwilio dyffrynnoedd emosiynol a seicolegol y meddwl. Mae'r tenor Xabier Anduaga yn cyd-serennu fel dyweddi Amina, Elvino, ochr yn ochr â'r soprano Sydney Mancasola fel ei chystadleuydd, Lisa, a'r bas Alexander Vinogradov fel y Cownt Rodolfo. Riccardo Frizza sy’n cymryd at y podiwm ar gyfer un o weithiau mwyaf cyfareddol yr opera Wedi'i recordio'n fyw.