Event Info
Robert Zemekis, UDA 1985, 124 munud
Dangosiad Hamddenol/Rhieni/Babanod ar 3 Tachwedd am 10.30yb
Dewch i ddathlu ail-ryddhad 40fed pen-blwydd y ffilm anfarwol eiconig, yn ôl ar y sgrîn fawr ac mewn adferiad 4k! Mae Marty McFly sydd yn ei arddegau a'r gwyddonydd gwallgof Doc Emmet Brown yn ffeindio eu hunain yng nghanol dilema teithio-mewn-amser cyfareddol, heb fod yn ymwybodol o'r problemau maent wedi'u hachosi i'r continwwm gofod-amser. Yn boblogaidd iawn erioed, dyma un o'r ffilmiau mwyaf cymhellol ym mhrif ffrwd diwylliant pop, ac ni fyddwn byth yn gwrthod esgus i'w dangos!