Ewch at gynnwys
Gwe 24 Hyd
·
Sinema

Event Info

Mamoru Hosoda, Japan 2006, 98munud, isdeitlau

Mae Makoto yn ferch nodweddiadol yn ei harddegau sy’n treulio’r rhan fwyaf o’i dyddiau yn ymlacio gyda ffrindiau. Un diwrnod wrth ruthro i gyfarfod â’i modryb, mae bron â chael ei tharo gan drên, ond ar yr eiliad olaf, mae’n neidio’n ôl mewn amser i’r cyfnod cyn y ddamwain. Mae hi’n defnyddio ei gallu newydd ar unwaith i ail-wneud pob anghyfleustra baychan – o ganlyniadau arholiadau gwael i gyffesau lletchwith o gariad. Fodd bynnag, wrth wynebu canlyniadau ymyrryd gydag amser, rhaid i Makoto wneud popeth o fewn ei gallu i osgoi dyfodol difrifol na ellir ei wrthdroi.

Mae The Girl Who Leapt Through Time yn un o ffilmiau cynnar hoffus gan Mamoru Hosoda, y cyfarwyddwr a enwebwyd am Wobr yr Academi,  y enwog am BELLE, Wolf Children, Summer Warsa mwy. Mae Hosoda yn plethu’r delweddau hir-hoedlog, trawiadol sydd mor nodweddiadol ohono gyda stori dyner am ferch yn ymdopi gyda chariad cyntaf, teithio amser, a’r dewisiadau peryglus a ddaw yn sgîl y ddau.

Yn dechrau ar amser, dim hysbysebion.

Prynwch 5, gewch un am ddim!

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 24 Hydref, 2025
17:30