Popeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld â ni mewn un lle
Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn gan gynnig rhaglen lawn o theatr, dawns, cerddoriaeth, arddangosfeydd, ffilm, llenyddiaeth, comedi ac ystod eang o ddosbarthiadau a chyrsiau a fyddai’n destun eiddigedd i lawer o ddinasoedd llawer mwy nag Aberystwyth.
Oriau agor
Swyddfa Docynnau
Caffi
Bwyd Poeth Ar Gael
Oriel 1
Oriel Serameg
Siop Canolfan y Celfyddydau
Cynlluniwch eich ymweliad
Gwybod cyn i chi fynd
Ein lleoliad
Cyrraedd Yma
Fe ddewch o hyd i ni yng nghanol Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth ar yr A487 i’r gogledd allan o’r dref ar Riw Penglais. Ein cyfeiriad yw Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DE
Di-gar
Mae’n hawdd ein cyrraedd ar drên, bws, beic ac ar droed. Mae’r bws 03 yn cysylltu’r dref/gorsaf â Chanolfan y Celfyddydau bob 30 munud o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.
Ar y trên
Mae trenau yn rhedeg yn syth i Aberystwyth o Birmingham, Yr Amwythig, Y Drenewydd a Machynlleth, bob 1-2 awr.
Yn y car
Mae’r troad i’r campws o’r A487 wrth i chi fynd i’r gogledd allan o ganol y dref i gyfeiriad Machynlleth, ac mae digon o arwyddion. Mae meysydd parcio mawr yn agos i Ganolfan y Celfyddydau ac ar y campws sydd am ddim i gwsmeriaid fin nos ar ôl 5pm ac ar benwythnosau. Os ydych yn ymweld â ni yn ystod y dydd, dylech ddilyn yr arwyddion i’r Maes Parcio Ymwelwyr, a chodir tâl bach am hyn.