Ewch at gynnwys

CYFLE AM BRESWYLIAD RHYNGWLADOL – MAGNETIG 3

Mae trydedd rownd o breswylfeydd rhyngwladol yn y celfyddydau gweledol i Fluxus Magnetig yn Ffrainc a’r DU dal ar agor! Dyddiad Cau:15eg Gorffennaf 2024.

Mae’r rhaglen eisoes wedi cefnogi 8 partner rhyngwladol ac 17 artist. Nawr mae’r rhaglen yn ehangu ei rhwydwaith i 2 breswylfa arall ym Mharis a Llundain.

Mae’n rhaglen ar y cyd rhwng y DU a Ffrainc dan ymbarél Prosiectau Celf Fluxus. Mae’n dod â 10 sefydliad at ei gilydd i greu rhwydwaith o breswylfeydd i artistiaid yn rhanbarthau Ffrainc a chenhedloedd y DU.

Mae pob preswylfa’n bartneriaeth rhwng rhanbarth Ffrainc a chenedl yn y DU. Rydym yn falch iawn bod Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Cymru, wedi ei phartneru gyda Frac Bretagne yn Rennes, Llydaw, unwaith eto.

Rydym yn chwilio am 2 artist, 1 wedi’i leoli yn Llydaw i gymryd rhan yn y preswyliad yma yng Nghymru, ac 1 wedi’i leoli yng Nghymru i gymryd rhan yn y preswyliad yn Llydaw.

 

Mae’r 4 partneriaeth tandem arall yn creu cysylltiadau rhwng CAPC yn Bordeaux/Nouvelle-Aquitainea Wysing Arts Centre yng Nghaergrawnt/Lloegr, rhwng Frac Grand Large yn Dunkirk/Hauts-de-France a Flax Art Studios yn Belfast/Gogledd Iwerddon, rhwng Villa Arson yn Nice/Provence-Alpes-Côte d’Azur a Cove Park/Yr Alban a rhwng Bétonsalon ym Mharis/Île-de-France a Gasworks yn Llundain/Lloegr.

Materion cymdeithasol ac amgylcheddol sydd wrth wraidd y rhaglen. Mae’r preswylfeydd wedi’u teilwra i bob sefydliad a’i ardal leol. Bydd gwahoddiad i’r artistiaid ymateb i gyd-destunau daearyddol, hanesyddol, cymdeithasol neu artistig penodol.

Bydd yr artistiaid yn cael ffi misol o 2500 €/ £ 2100, ynghyd â chyfleoedd mentora curadurol. Bydd pob preswyliad o ddau fis yn cael ei drefnu’n benodol drwy drafodaethau â thimau curadurol y sefydliadau, gan roi cyfleoedd i’r artist rwydweithio drwy gydol y cyfnod dan sylw. Bydd yr artistiaid yn cael llety a gofod gweithio.

Bydd y preswyliaid yn cychwyn ym mis Tachwedd 2024.

Os ydych am ymgeisio, rhaid cyflwyno cynnig artistig sy’n amlinellu arbenigedd eich ymarfer a’ch diddordebau ymchwil a pham eu bod yn berthnasol yng nghyd-destun y sefydliad yr ydych yn ymgeisio amdano. Hefyd darn byr sy’n disgrifio eich cymhelliant dros ymgeisio am breswylfa ryngwladol ar yr adeg yma yn eich gyrfa a manteision hynny.

Bydd enwau’r artistiaid Magnetic 3 yn cael eu cyhoeddi gychwyn mis Hydref 2024.

– Dim ond artistiaid gweledol cyfoes sy’n gallu ymgeisio.

– Nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio.

– Rydych yn gysylltiedig â gwlad/rhanbarth os oes gyda chi gyfeiriad preswyl yno.

– Gellir ymgeisio yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

– Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar y cyd (gan ddau neu ragor o bobl).

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – o ran hil, ethnigrwydd, rhywedd, cefndiroedd incwm isel ac ymgeiswyr sy’n F/fyddar, anabl neu niwroamrywiol.

Mae gwahanol sefyllfaoedd hygyrchedd gan bob sefydliad sy’n cynnig preswylfa. Edrychwch ar ein gwefan i’w gweld.

Rydym yn barod i drafod unrhyw ofynion penodol. Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd ar unrhyw gam wrth ymgeisio, rhowch wybod inni.

Cyswllt: fluxusartp@gmail.com

YMGEISIWCH FAN HYN

Fluxus (fluxusartprojects.com)

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image