Event Info
Dydd Gwener 3 Hydref, 7.00pm, 90 munud
Tocynnau: £5.00
Canolfan y Celfyddydau - Ystafell 2D
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Ymunwch â ni am ddetholiad o ddarlleniadau sgript gan artistiaid Lab Comedi Cymru eleni!
Boots gan Cerys Bradley
Mae angen hyfforddwr, tîm a buddugoliaeth ar y Llanbradach Knights (merched) neu mae nhw allan. A allent ddod at ei gilydd a goroesi'r tymor? Ymunwch â Cerys Bradley (Gwobr Rhagoriaeth Awtistig 2022, fel y’i gwelir ar Comedy Central, UKTV, BBC One Wales) am ddarlleniad o'i chomedi sefyllfa newydd am dîm rygbi merched sy’n gwneud eu gorau glas.
Ella’s Not OK gan Mel Owen
Mae gan Ella gynllun ar gyfer ei bywyd. Y broblem yw, ‘does neb arall yn dilyn y cynllun! Mewn byd sy’n gwrthod cydweithredu a jyst gadael iddi fod, mae'n syndod bod Ella yn gwneud cystal. Na, wir, mae’n grêt. Ydi, mae hi'n hollol iawn. Mae'n IAWN!!!
Ymunir â Cerys a Mel gan Fflur Pierce a Gruffudd Owen.
16 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.