Event Info
Nos Sul 5 Hydref, 2yp, 60 munud
Tocynnau: £6.00 / £20 am deulu o 4
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Sinema
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Enillydd y Sioe Deuluol Orau yng Ngŵyl Ymylol Brighton 2025.
Mae'r sioe gomedi deuluol hon yn llawn syrpreisys wrth i Darryl a'i syrcas mewn blwch eich tywys ar gorwynt o ryfeddodau. Bob tro mae'r blwch yn agor, mae'n anturiaeth newydd: ergydion tric, perfformiadau syrcas a llwyth o chwerthin sy'n gwahodd pawb i ymuno yn yr hwyl.
Mae Out of the Box wedi mwynhau llwyddiant ledled y byd, gyda Darryl yn benderfynol o’ch gwneud chi'n seren y sioe (dim momentau embaras yma, jyst llawenydd pur!). Gyda chlownio di-eiriau hygyrch ac ysgafn Darryl, mae gwrthrychau bob dydd yn trawsnewid yn bethau eithriadol.
Yn berffaith i deuluoedd a’r sawl sydd wrth eu bodd gyda chomedi a syrcas, mae'r sioe hon yn ddathliad llawen o chwarae, beth bynnag eich oedran, gan ddod â chenedlaethau at ei gilydd trwy ffolineb clyfar iawn!
Addas i bawb
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.