Event Info
Dydd Sadwrn 4 Hydref, 12yp, 60 munud
Tocynnau: £8.00
Canolfan y Celfyddydau - Ystafell 2D
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Yn dilyn ei sioe boblogaidd arobryn “Haunted House”, mae Eleanor Morton yn ôl gyda gwaith newydd ar y gweill am ryw, môr-forynion a môr-forynion secsi. Pan ‘roedd Eleanor yn 9 oed, y cyfan oedd hi eisiau oedd bod yn fôr-forwyn. Ond pam? Ac a oes ots ei bod hi'n casáu'r môr?
Ymunwch ag Eleanor i chwerthin am lên gwerin, addysg ryw, a'n diddordeb mewn môr-forynion a'u hapêl i ddynion ar hyd y canrifoedd.
Canmoliaeth i Haunted House:
“Mae'r awr hon yn sicr yn adeiladwaith meistrolgar” **** Pepper & Salt
“Doniol drosben” The Metro **** ½
“Mae hon yn sioe ragorol gan ddigrifwraig ragorol, gryf ei meddwl” **** The QR
**** Beyond the Joke
**** Ed Fest Mag
**** The Skinny
16 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.