Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 5 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sul 5 Hydref, 3.45pm, 60 munud

Tocynnau: £12.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Mae Esyllt Sears, Mary Flanigan ac Eleanor Morton yn dod â sioe gêm ddi-drefn i chi sy'n gosod Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn erbyn ei gilydd mewn nifer o dasgau a gemau sy'n fwy a mwy gwirion i benderfynu pwy yw'r gorau o'r gweddill (ohonom). Gwyliwch sêr The Rest of US ar BBC Radio 4 yn brwydro i gael eu coroni'n bencampwr y Celtiaid a theyrnasu dros yr ynysoedd teyrnaidd hyn. Wedi'i gyflwyno gan Sais symbolaidd, mae'r sioe gêm wirion hon yn sicr o fod yn lot o hwyl.

Mae Mary Flanigan yn ysgrifenwraig a digrifwraig stand-yp. Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Digrifwr y Flwyddyn Leicester Mercury 2023 a Gwobr Breaking Talent Birmingham 2019. Mae hi wedi ymddangos ar BBC Radio 4, BBC Ulster a BBC Gogledd Iwerddon, ac mae’n aelod o grŵp Writersroom BBC Gogledd Iwerddon, 'Belfast Voices'. Mae hi wedi cefnogi Fern Brady ar daith. 'Clyfar, cryno…miniog a chraff' Chortle

Mae Esyllt Sears yn ddigrifwraig stand-yp, yn ysgrifenwraig comedi ac yn un o gyflwynwyr y Comedy Club (BBC Radio 4 Extra). Mae hi wedi cefnogi Elis James, Stuart Laws a Jen Brister ar daith, ac mae’n gyd-gyflwynydd y podlediad I'm So Not Over It gyda Gareth Gwynn a'r podlediad The Pod of Wales gyda Kiri Pritchard-McLean. Mae hi wedi perfformio ar BBC Radio 4, BBC Radio 4 Extra a BBC One Wales yn Saesneg ac ar S4C yn y Gymraeg. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer: The Now Show a The News Quiz (BBC Radio 4); cyfres sgetshis Elis James a dwy o'i raglenni stand-yp arbennig (S4C); What Just Happened? (BBC One Wales); I Can't Get Over 2024, a Welcome Strangers (BBC Radio Wales) a The Rest Of Us (BBC Radio 4).

Mae Eleanor Morton yn ysgrifenwraig, yn actores ac yn ddigrifwraig sydd efallai mwyaf adnabyddus am ei sgetshis feirol. Mae hi hefyd wedi ymddangos ar ac ysgrifennu ar gyfer BBC Radio 4, BBC Scotland a BBC Radio Scotland lle mae hi'n banelydd rheolaidd ar gyfer Breaking the News. Yn ddiweddar mae hi wedi ymddangos ar You’re Dead to Me. Mae ei sioe Ymylol 2022 lwyddiannus, Eleanor Morton Has Peaked, ar gael i'w gwylio ar Next Up ac ITV player. ‘Seren sy'n codi’ Time Out

14 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 05 Hydref, 2025
15:45