Event Info
Dydd Sadwrn 4 Hydref, 6.15pm, 60 munud
Tocynnau: £10.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Gwelwch wreichion yn hedfan o flaen eich llygaid wrth i'r digrifwyr Robin Morgan ac Esyllt Sears helpu (neu rwystro) cyplau trwy eu dêts cyntaf YN FYW ar y llwyfan.
Dewisir y cyplau ymlaen llaw felly'r cyfan sydd angen arnom yw cynulleidfa wych. ‘Rydym angen eich egni cefnogol, eich help i dorri’r iâ a'ch gallu i sbotio’r fflagiau coch (a gwyrdd).
16 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.