Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 5 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sul 5 Hydref, 4yp, 40 munud

Tocynnau: £5.00

Canolfan y Celfyddydau - Ystafell 2D

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Sioe gomedi lle ‘rydych yn marw ar y diwedd (mwy na thebyg).

Ar ôl noson lai na llwyddiannus, ‘rydych yn syrthio i gysgu ar yr hyn ‘rydych yn meddwl yw'r bws adref. Ond wrth ddeffro, nid ydych gartref, ‘rydych rywle anghyfarwydd, brawychus ac hollol estron. GOGLEDD CYMRU. Rhaid i chi ddod o hyd i'ch ffrindiau, dianc ac yn bwysicaf oll, GOROESI!

(Ymddiheuriadau i unrhyw un sy’n dod o Ogledd Cymru, ‘dwi erioed wedi bod a dweud y gwir)

Gadewch i'r digrifwr, y storïwr a'r arweinydd yn ôl ei ddymuniad, Harri Dobbs, eich tywys trwy anturiaeth lle mae'r penderfyniadau i fyny i chi, a lle mae'r rhan fwyaf o lwybrau'n arwain at eich marwolaeth ... hynny yw, yn y gêm, byddwch yn iawn mewn bywyd real (mwy na thebyg).

16 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 05 Hydref, 2025
16:00