Event Info
Dydd Sadwrn 4 Hydref, 8.15pm, 60 munud
Tocynnau: £14.00
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Stiwdio
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Mae bastard mwyaf Swydd Efrog ac enillydd Gwobr Gomedi Caeredin am Newydd-ddyfodiad Gorau 2024 yn ôl! Y tro hwn mae’n arbennig o wych! Ac hefyd, mae’n farw. Mae’n ddyn marw. Ymunwch â hoff berchennog demonig Clwb Gweithwyr y genedl wrth iddo eich syfrdanu o’r tu hwnt i’r bedd.
“Gwiriondeb erchyll ar ei orau” ***** Evening Standard
“Sioe amrywiaeth hen ffasiwn un-dyn... Buddugoliaethus!” ***** BeyondTheJoke.co.uk
18 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.