Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 5 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sul 5 Hydref, 7.45pm, 60 munud

Tocynnau: £8.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Mae Josh Glanc, a enwebwyd am Wobr Gomedi Caeredin, yn ôl yn Aber i weithio ar ei sioe newydd sbon. Caneuon newydd a deunydd swrrealaidd rhyngweithiol newydd gan ‘y meistr ar ei grefft’ o Awstralia. (Y Guardian).

Wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin 2024 ac fel y’i gwelwyd yng Ngŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne, dyma greawdwr a seren y gomedi ddiweddar ar Channel 4, Short Family Man.

“Nonsens llwyr a phleser pur” **** Times

“Gwiriondeb deniadol o ffres” **** Telegraph

“Bisâr, absẃrd, gwyllt - a chymaint o hwyl! Dyma gomedi nad oeddem am iddi ddod i ben” ***** Advertiser, Adelaide

“Yn danseiliol llawen” **** List

Rhybudd: Bydd llawer o’r sioe yn fyrfyfyr, yn ddrwg, yn secsi, yn hwyl, ac yn frawychus.

16 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 05 Hydref, 2025
19:45