Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 5 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sul 5 Hydref, 8yh, 60 munud

Tocynnau: £22.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Mae'r digrifwr a enwebwyd pedair gwaith am wobr gomedi Caeredin yn dychwelyd.

America. Beth ar y ddaear ddigwyddodd? Ers pan oedd yn blentyn bach truenus yn byw mewn gwlad fach druenus (ie, Lloegr), mae Kieran Hodgson wedi bod yn rhoi acen Americanaidd ymlaen ac yn breuddwydio’r freuddwyd Americanaidd fawr. Ond y dyddiau hyn nid yw pethau mor syml. Onid aeth America'n hollol wallgof? Onid aeth yn rhy hen i freuddwydio? A phan ddaw Hollywood yn galw, a yw Kieran mewn gwirionedd yn swnio'n Americanaidd wedi'r cyfan?

Ymunwch ag un o 50 digrifwr doniolaf yr unfed ganrif ar hugain yn ôl y Telegraph wrth iddo ystyried sut mae byd ofnus yn teimlo am yr Unol Daleithiau, gan ddynwared criw o hen chwilotwyr a chyn-Arlywyddion.

Fel y’i gwelir ar Two Doors Down, Prince Andrew The Musical a The Flash.

'O’r galon ac yn llawn hiwmor' ★★★★★ Guardian

'Ni chollir unrhyw gyfle i chwerthin' ★★★★ Daily Telegraph

“Yn ddryslyd o ddoniol” ★★★★★ The Mail on Sunday

“Un o gomedïwyr mwyaf talentog ei genhedlaeth” ★★★★★ Broadway World

★★★★ The Times ★★★★ Time Out ★★★★ The List ★★★★ Chortle ★★★★★ Beyond The Joke ★★★★★ Entertainment Now ★★★★★ Mail on Sunday

14 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 05 Hydref, 2025
20:00