Event Info
Dydd Sadwrn 4 Hydref, 10.30am, 75 munud
Tocynnau: Am Ddim ond mae angen tocyn
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Clwb Comedi Kiri yn dod i Aberystwyth!
Dechreuwch eich bore Sadwrn mewn steil gyda recordiad radio gwych yn Theatr Canolfan y Celfyddydau. Mae tocynnau'n rhad ac am ddim, jyst dewch â chi'ch hun a'ch chwerthin gorau ar gyfer ychydig o gomedi ffantastig.
Kiri Pritchard-McLean yw eich cyflwynydd wrth iddi arddangos rhai o'ch hoff stand-yps sy’n perfformio yn yr ŵyl eleni.
Bydd y sioe hon yn cael ei recordio i'w darlledu ar BBC Radio Wales a BBC Sounds.
Gwrandewch ar Glwb Comedi Kiri ar BBC Sounds.
12 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.