Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 4 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sadwrn 4 Hydref, 8yh, 60 munud

Tocynnau: £12.00

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Stiwdio Ddawns 3

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Cowboi. Gwaethaf. Tecsas. Dyma ychydig o eiriau’n unig i ddisgrifio'r Cowboi Gwaethaf yn Tecsas. Mae'n rholio ac yn brolio o'r mynyddoedd mwyaf nerthol i'r salŵns mwyaf sosi. Ond beth sy'n digwydd pan mae Cowboi Gwaeth Byth o Decsas (h.y. ei nemesis) yn reidio i'r dref ac yn dwyn ei deitl?

Mae BANGTAIL yn stori epig am ddyn sy'n chwilio am ei wrywdod. Yn dilyn taith yn yr Unol Daleithiau a werthodd allan, rhediad hynod lwyddiannus yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, a thymor yn Theatr SOHO yn Llundain, mae BANGTAIL yn ôl ar y ffordd eto! Felly, paratowch am awr o lanast a chlownio wrth i'n harwr deithio o'r Gorllewin Gwyllt i'r swyddfa yn America.

Wedi'i henwebu ar gyfer y Sioe Amrywiaeth Orau (Gŵyl Gomedi Caerlŷr), Comedïwyr Cwiar Gorau Binge Fringe a Rhestr Fer Gwobrau Laura yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.

Crewyd ar y cyd a pherfformwyd gan Lil Wenker.

Crewyd ar y cyd a chyfarwyddwyd gan Cecily Nash.

“Gwallgofrwydd pur, wedi’i gyflwyno’n wych.” ★★★★★ Three Weeks

“Dosbarth meistr mewn clownio a wnaeth i’r dorf ruo’n chwerthin ... Yn wirioneddol ardderchog"★★★★★ Voice Mag

“Ffarsaidd a chlyfar iawn”★★★★ Fest Mag

16 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 04 Hydref, 2025
20:00