Event Info
Dydd Sadwrn 4 Hydref, 8pm, 60 munud
Tocynnau: £8.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Y cyfan oedd ei angen ar Matt i wthio ei hun i mewn i’r gylchdaith gomedi yn 18 oed ac i fod yn cyflwyno teledu cenedlaethol erbyn 22 oed oedd bod yn swnllyd, yn ddigywilydd ac ychydig yn haerllug. Ond yn gynt nag y gallwch ddweud ‘Celebrity Coach Trip’, yn sydyn mae’n ffeindio ei hun yn ei 30au, felly beth sydd nesaf i’r llanc?
Mae Matt wedi symud i gefn gwlad, wedi setlo i lawr, ac yn gwneud ei orau glas i beidio â gwneud jôcs anghwrtais. Nid yw pethau’n mynd cystal ag yr oedd wedi gobeithio…
Mae ceisio llywio byd o blant i ffrindiau, morgeisi a bywyd pentref yn her i'r dyn na all beidio â chreu helynt. Sut ydych yn heneiddio gyda gras ac urddas pan mae'n groes i holl nodweddion eich personoliaeth hyd yma?
Fel y’i gwelir ar Dancing on Ice, The Stand Up Sketch Show, Love Island: Aftersun (ITV2), Comedy Central’s Roast Battle a llawer mwy.
‘Stand-yp llawn egni’ The Guardian
‘Doniol a chyfareddol’ The Mirror
18 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.