Event Info
Nos Sadwrn 4 Hydref, 6.00yh, 60 munud
Tocynnau: £20.50
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Ydych chi'n barod am noson ddiawl orau eich bywyd? Wel peidiwch â phoeni, mae’r dyn gyda’r corn gwddf euraidd yn ôl - ac mae’n anelu’n uchel.
Ar ei daith olaf bu Nick Helm yn addo Super Fun Good Time Show i chi i gyd, ac heblaw am un dyn yn Hull, gall neb honni nad oedd wedi cadw ei addewid. Y tro hwn, mae'r darpar Drysor Rhyngwladol yn mynd i roi i chi noson orau eich bywydau diflas, os ydych am iddo wneud hynny neu beidio.
Nick Helm yw diddanwr amryddawn byw mwyaf ei genhedlaeth neu unrhyw genhedlaeth, yn fyw neu'n farw, ac mae'n dod i’ch ardal chi. Beth ydych am ddweud wrth eich wyrion? Y buoch yn brysur y noson honno? Wel paratowch i'ch wyrion syllu arnoch gyda diffyg ddealltwriaeth llwyr. Byddwch yn cael eich ystyried, yn lleol, yn dwpsyn. O hyn ymlaen, bob tro y cewch gip ar eich adlewyrchiad eich hun mewn ffenestr car neu gefn hen DVD, byddwch yn ystyried eich hun yn lembo.
Felly byddwch yn cŵl, gwnewch y peth call a phrynwch docyn. Maent yn fforddiadwy, mae ‘na egwyl i brynu lluniaeth a chewch gyfle i edrych ar eich cyd-aelodau o’r gynulleidfa a holi “Ydi hwn newydd newid ein bywydau?” Tosturiwch wrtho. Ef. Yw. Eich. Duw. Newydd. Gallwch redeg a gallwch guddio, ond ‘does neb yn cael dod allan yn fyw.
Ers dechrau comedi stand-yp yn 2007, buan iawn y cafodd Nick sylw o bob rhan o’r diwydiant am ei gyfuniad doniol o jôcs, straeon, cerddi a chaneuon. Fe’i enwebwyd dwywaith ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin, mae wedi rhyddhau dau albwm llwyddiannus, a chafodd ei enwebu ar gyfer gwobr BAFTA am y ffilm fer ‘Elephant’, y bu’n ei chyd-ysgrifennu, ei chyfarwyddo ac hefyd yn serennu ynddi. Fel y’i gwelwyd hefyd ar Uncle, Loaded, Nick Helm’s Heavy Entertainment, Live at the Apollo, 8 Out of 10 Cats Does Countdown a llawer mwy.
Cyflwynir gan Plosive Live mewn cydweithrediad â Sophie Chapman Talent.
‘Genuinely exciting’ ★★★★★ Telegraph
‘Terrific’ ★★★★ Times
‘It ain’t pretty, but it is hilarious’ ★★★★ Chortle
‘Brilliant one-liners and magnificent set pieces’ ★★★★ Independent
‘Helm is a comic tour de force, and then some’ ★★★★ Mail on Sunday
16 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.