Event Info
Dydd Sadwrn, 4 Hydref, 12.15yp, 60 munud
Tocynnau: £6.00 / £20 am Deulu o 4
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Stiwdio
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
Mae Robin Morgan (fel y’i clywir ar Mock The Week) yn cyflwyno sioe gomedi i blant ac oedolion fel ei gilydd. Mae gan Robin stori i'w hadrodd. Ac mae angen help arno.
Gan ddefnyddio aelodau cymwynasgar o’r gynulleidfa fel ei gast (na fyddant yn cael eu talu), mae Robin yn adrodd i chi stori wirioneddol cŵl, wedi'i hactio gan rai o'r actorion ifanc mwyaf talentog sy'n bresennol yn yr ystafell ar y pryd.
Bydd hefyd yn eich dysgu sut mae straeon yn gweithio, felly gallech ddadlau bod y sioe yn addysgiadol. Mae YN addysgiadol! A allwn gael arian gan Gyngor y Celfyddydau ar ei chyfer? Dyna gwestiwn arall ar gyfer amser arall.
Addas i bawb
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.