Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 5 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sul 5 Hydref, 8pm, 60 munud

Tocynnau: £10.00

Canolfan y Celfyddydau  - Stiwdio Ddawns 3

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Mae'r optimydd o Gymro, Steffan Alun, yn cyflwyno awr o gomedi wych am rywioldeb, diwylliant pop ac, wrth gwrs, yr holl bethau gorau am Gymru. Ar ôl perfformio ychydig llai nag awr o stand-yp yng Ngŵyl Ymylol Caeredin bob blwyddyn ers 2015, cyflwynodd o’r diwedd ei awr lawn gyntaf yn 2025 - yn nodweddu’rgorau o'i 14 mlynedd fel digrifwr.

Fel y’i gwelwyd a'i glywyd ar BBC Wales, S4C, Radio 4Extra, Radio Cymru, ac yn cefnogi Elis James ar daith.

14 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 05 Hydref, 2025
20:00