Event Info
Nos Iau 3 Hydref, 7.30pm, 120 munud
Tocynnau: £28.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
John Mackay a Sally Homer, mewn cydweithrediad â Debi Allen/Curtis Brown, yn cyflwyno
STEWART LEE vs THE MAN-WULF
Yn y sioe newydd sbon hon, mae Lee yn rhannu ei lwyfan gyda digrifwr bleidd-ddyn caled o goedwigoedd tywyll yr isymwybod sy’n casáu dynoliaeth. Mae’r Bleidd-ddyn yn gosod her gomedi ffyrnig i Lee - sy’n ddiffygiol yn ddiwylliannol ac yn gorfforol. A all y bwystfil y tu mewn i ni i gyd gael ei dawelu gan fwled arian steil clodwiw unigryw Lee o stand-yp?
Mae Stewart Lee (“Digrifwr stand-yp byw mwya’r byd” Y Times), mewn perygl o gael ei adael ar ôl. Mae’n tynnu at ei chwe deg gyda phroblemau iechyd trafferthus; mae ei broffil teledu wedi lleihau, ac ymddengys fod ei steil stand-yp a enillodd wobr BAFTA ar un adeg wedi’i ddisodli bellach. Ond a all Lee ryddhau ei Fleidd-ddyn mewnol i osod ei hun ochr yn ochr â mawrion y byd comedi megis Dave Chappelle, Ricky Gervais a Jordan Peterson sy’n medru llenwi stadiwm gyda llond bol o chwerthin?
14 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.